Carwyn Jones: Dylai Cymru gael tîm criced undydd

Dylai Cymru gael tîm criced undydd rhyngwladol, yn ôl y prif weinidog.
Dywedodd Carwyn Jones ei fod yn "od" fod gan Iwerddon a'r Alban dimau, ond nad oes gan Gymru.
Yn siarad yn ystod Sesiwn Holi'r Prif Weinidog, dywedodd ei fod yn cefnogi'r syniad, cyn belled â bod dim "ergyd ariannol" i glwb criced Morgannwg yn deillio o hynny.
Wrth ymateb i gwestiwn Mohammad Asghar, dywedodd Mr Jones bod "yr amser wedi dod" i Gymru gael tîm ei hun.
Ergyd i Forgannwg?
"Mae hyn yn rhywbeth rydw i wedi ei gefnogi yn y gorffennol. Yn sicr tîm undydd," meddai.
"Nid tîm gêm prawf, dydw i ddim yn meddwl ein bod ni'n chwarae i'r lefel yna.
"Ond mae'n od ein bod yn gweld Iwerddon a'r Alban yn chwarae mewn cystadlaethau rhyngwladol, ond nid Cymru."
Dywedodd ei fod yn ymwybodol o'r pryderon gan glwb Morgannwg oherwydd y "mantais ariannol maen nhw'n ei gael" o fod yn rhan o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr.
Ychwanegodd: "Ond o fy safbwynt i hoffwn i ein gweld yn cael ein cynrychioli'n rhyngwladol mewn criced, cyn belled wrth gwrs a bod dim ergyd ariannol i Forgannwg, a'r gallu iddyn nhw chwarae ar y lefel uchaf."
Yn 2013 fe wnaeth pwyllgor Cynulliad alw am "drafodaeth synhwyrol" ar sefydlu tîm o'r fath.
Mae Morgannwg wedi gwrthwynebu sefydlu tîm yn y gorffennol, gan ddweud na fyddai gemau rhyngwladol Lloegr yn cael eu chwarae yng Nghaerdydd mwyach, ac felly'n arwain at lai o incwm i'r clwb.