Chwilio am nofiwr yn y môr yn y Gŵyr

Bu gwylwyr y glannau'n chwilio am ddyn gafodd ei weld yn nofio yn y môr yn y Gŵyr.
Fe welwyd y nofiwr, sydd mae'n debyg yn ei bedwardegau hwyr, yn mynd i'r dŵr ym Mae Caswel tua 14:30 ddydd Mercher.
Fe nofiodd tuag at gildraeth gerllaw ond welodd neb mohono'n gadael y dwr.
Bu gwylwyr y glannau'n chwilio'r ardal ond fe fethon nhw a dod o hyd i'r dyn.
Dywedodd Heddlu'r De nad oedd neb wedi cysylltu â nhw i ddweud bod dyn ar goll.
Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth.