Côr Merched Sir Gâr yn paratoi at Eurovision 2017

Published
image copyrightCyngor Cerdd Sir Gar
image captionMae 42 o ferched yn aelodau o'r côr, gafodd ei sefydlu pum mlynedd yn ôl

Mae Côr Merched Sir Gâr yn paratoi i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Corau Eurovision ym mhrifddinas Latfia nos Sadwrn.

Dyma'r tro cyntaf erioed i gystadleuaeth Côr y Flwyddyn Eurovision gael ei chynnal, gyda dinas Riga wedi'i dewis fel y lleoliad cyntaf i'w llwyfannu.

Roedd Côr Merched Sir Gâr yn fuddugol yng nghystadleuaeth Côr Cymru ym mis Ebrill eleni, gan sicrhau mai nhw fyddai'n mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn Latfia.

Mae gan y côr, sy'n bodoli er pum mlynedd, 42 o aelodau o oedrannau amrywiol ysgol uwchradd.

image captionIslwyn Evans yw arweinydd Côr Merched Sir Gâr

Arweinydd y côr yw Islwyn Evans, sydd â blynyddoedd o brofiad o arwain corau ac sydd hefyd yn arweinydd côr Ysgol Gerdd Ceredigion.

Dywedodd Mr Evans wrth Cymru Fyw: "Mae'r merched wedi bod yn ymarfer yn galed yn ystod yr wythnosau diwethaf ac wedi gwneud yn rhyfeddol o ystyried fod cymaint ohonynt gydag arholiadau.

"Mae'r merched wedi cynhyrfu i fod yn perfformio yma'n Riga ac mae'n anrhydedd bod y côr cyntaf i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth."

Fel rhan o reolau'r rownd derfynol fe fydd rhaid i'r corau berfformio rhaglen sy'n para chwe munud o hyd.

Fe all y perfformiad gynnwys unrhyw genre sy'n cynrychioli "cymeriad eu rhanbarth neu eu gwlad".

Hefyd yn perfformio yn yr Eurovision fydd corau ieuenctid o Awstria, Gwlad Belg, Denmarc, Estonia, Yr Almaen, Latfia, Slofenia a Hwngari.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol