Proses cynorthwyo ffoaduriaid yn lleol yn 'gymhleth'
- Published
Wrth i'r swyddfa gartref gyhoeddi £1m i helpu cymunedau noddi ffoaduriaid mae pryder ynglŷn â pha mor gymhleth yw'r broses.
Mae grŵp wedi'i sefydlu yn Arberth, Sir Benfro sy'n helpu i ddod â theulu o ffoaduriaid i'r DU a chynnig cartref iddyn nhw.
Mae Arberth yn un o 10 tref yn y DU sydd wedi ymgymryd â chynllun gan Lywodraeth y DU yn 2016 i gymryd cyfrifoldeb o gefnogi cartrefu ffoaduriaid.
Dywedodd un sy'n aelod o Croeso Arberth, Christina Hughes, wrth raglen Eye on Wales ar BBC Radio Wales nad oedd hi'n gallu "eistedd nôl a gwylio pobl yn dioddef".
Felly daeth criw o bobl leol at ei gilydd i sefydlu'r grŵp, sy'n cymryd cyfrifoldeb o hyd at dri theulu drwy ddarparu cartref ar eu cyfer a'u helpu i ddysgu Saesneg er mwyn dod o hyd i waith.
'Proses gymhleth'
Mae ffigyrau yn dangos bod grwpiau cymunedol o'r fath wedi cefnogi hyd at 53 ffoadur y llynedd.
Ond mae Croeso Arberth yn pryderu bod y broses yn un cymhleth.
Roedd yn rhaid iddyn nhw gasglu £4,500 ar gyfer yswiriant ar gyfer y saith ffoadur maen nhw'n eu cefnogi, yn ogystal â chadw £6,000 mewn cyfrif i dalu am gyfieithwyr a chostau teithio.
Mae £200 yn cael ei gadw 'nôl hefyd fel lwfans i aelodau o'r teulu.
"Dyma oedd dechrau'r broses gyda nifer o ffurflenni gan y Swyddfa Gartref i'w llenwi," meddai Ms Hughes.
"Doedd gennai ddim syniad faint o waith oedd yn ei gymryd. Hanner ffordd drwy'r broses roeddwn yn gofyn i fy hun 'be dwi'n ei wneud?'
"Ond dwi'n falch fy mod wedi bwrw 'mlaen."
Dyma beth sydd i ddisgwyl gan gymunedau sy'n noddi ffoaduriaid:
- Cwrdd â'r teulu yn y maes awyr;
- Darparu cymorth ar gyfer eu cartrefu;
- Trefnu gofal meddygol a mynediad at wasanaethau cymdeithasol;
- Trefnu addysg Saesneg;
- Cefnogi a'u hysgogi i chwilio am waith a byw yn annibynnol.
Roedd rhaid i'r grŵp gael caniatâd gan Gyngor Sir Benfro cyn bwrw 'mlaen gyda'r cais i ddarparu cymorth i'r ffoaduriaid, yn ogystal â Citizens UK.
Bellach mae'r broses ar ben ac mae teulu o saith ffoadur o Syria wedi cyrraedd Arberth.
"Allai ddim credu bod y cyfan drosodd," meddai Ms Hughes.
"Gan ein bod yn un o'r grwpiau cyntaf i gyflawni hyn dwi'n gobeithio wrth fynd ymlaen bydd y Swyddfa Gartref yn gwneud pethau'n gynt i grwpiau eraill."