Disgwyl heddlu arfog ar faes yr Eisteddfod ym Môn
- Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud ei bod hi'n "debygol" y bydd heddlu arfog ar faes yr ŵyl ar Ynys Môn.
Dyma fyddai'n tro cyntaf i swyddogion arfog grwydro maes y Brifwyl, fydd yn cael ei chynnal eleni ger Bodedern rhwng 4 a 12 Awst.
Dywedodd prif weithredwr yr ŵyl, Elfed Roberts fod yn rhaid i'r Eisteddfod gymryd camau "oherwydd beth sydd 'di digwydd dros y misoedd diwethaf".
Yn gynharach eleni fe wnaeth yr Urdd amddiffyn y penderfyniad i gael heddlu arfog yn yr eisteddfod ieuenctid ym Mhencoed, gan ddweud eu bod yn rhan o "gamau diogelwch angenrheidiol".
'Nhw ydi'r arbenigwyr'
Daeth y presenoldeb arfog yn Eisteddfod yr Urdd ddiwedd mis Mai wythnos yn unig wedi'r ymosodiad terfysgol ym Manceinion ble chafodd 22 o bobl eu lladd gan ffrwydrad.
Mae'r brifwyl hefyd wedi gorfod ystyried eu trefniadau diogelwch o ganlyniad i'r hinsawdd presennol, yn ôl y prif weithredwr.
"Mi fydd 'na fesurau yn y fynedfa o ran chwilio bagiau wrth fynd i mewn," meddai Mr Roberts.
"Oherwydd beth sydd 'di digwydd dros y misoedd diwethaf, dwi'n meddwl bod hi'n anorfod bod rhaid i ni edrych ar y mesurau diogelwch. Rydan ni wedi bod yn trafod hyn efo'r heddlu a'r cyngor sir."
Ychwanegodd: "Mae'n debyg y byddan nhw [heddlu arfog] yna. 'Da ni wedi cael trafodaethau gyda Heddlu Gogledd Cymru, a phenderfyniad yr Eisteddfod ydi beth bynnag mae Heddlu'r Gogledd yn ei gynghori, yna 'da ni'n barod i fynd efo hynny.
"Nhw sy'n gwybod beth sydd orau, nhw ydi'r arbenigwyr, ganddyn nhw mae'r wybodaeth ddiweddaraf, ac felly os 'dyn nhw'n teimlo bod rhaid cael heddlu arfog, yna bydd 'na heddlu arfog yna.
"Sut mae'r heddlu arfog yn cerdded o gwmpas y maes, ydyn nhw'n cerdded yn agored ta be', mae hynny eto fyny i'r heddlu."
Straeon perthnasol
- 1 Mehefin 2017