Gwahardd nyrs am 'geisio annog plentyn i gael rhyw'
- Cyhoeddwyd

Mae nyrs wedi cael ei wahardd rhag gweithio ar ôl gyrru negeseuon anweddus a chael ei ddal gan helwyr pedoffiliaid.
Roedd Imran Bhatti, 39, yn meddwl ei fod yn cyfathrebu â merch 10 oed pan anfonodd neges yn gofyn am gael rhyw.
Ond clywodd gwrandawiad fod oedolyn wedi copïo'r negeseuon a'u hanfon ymlaen i'r heddlu.
Fis diwethaf clywodd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fod Mr Bhatti wedi ymddwyn yn anonest wrth geisio cuddio ei waharddiad a manylion yr achos llys.
'Penderfyniad bwriadol'
Dywedodd cadeirydd y panel, Anne Booth fod Mr Bhatti wedi "gwneud penderfyniad bwriadol i beidio datgelu, ac wedi ceisio'n fwriadol i gelu bodolaeth y gorchymyn gwaharddiad".
Ychwanegodd: "Mae'r panel yn ystyried fod ymddygiad Mr Bhatti yn affwysol ac yn is na'r safon sydd i'w ddisgwyl gan nyrs cofrestredig."
Cafodd Mr Bhatti, o Gasnewydd, ei wahardd rhag gweithio fel nyrs.
Ym mis Tachwedd 2015, fe blediodd Mr Bhatti'n euog i gyhuddiad o annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithred ryw, cyn i farnwr yn Llys y Goron Casnewydd wyrdroi'r dyfarniad gan ddweud nad oedd wedi torri'r gyfraith am nad oedd yn cyfathrebu â phlentyn go iawn.