Mam a mab yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio dynes, 84
- Cyhoeddwyd

Mae Penelope John a Barry Rodgers wedi'u cyhuddo o lofruddio Betty Guy
Mae mam a mab o Sir Benfro wedi ymddangos yn y llys wedi'u cyhuddo o lofruddio dynes 84 oed, oedd yn perthyn iddynt.
Bu farw Betty Guy ar 7 Tachwedd 2011, ac fe amlosgwyd ei chorff yn fuan wedi hynny.
Cafodd ei merch, Penelope John, 50, a'i ŵyr Barry Rodgers 32, eu harestio yn gynharach yn y mis, a'u cyhuddo o'i llofruddiaeth.
Fe ymddangosodd y ddau yn y llys ddydd Gwener drwy linc fideo.
Doedd dim rhaid i'r un o'r ddau gyflwyno ple, a doedd dim cais am fechnïaeth.
Dywedodd y Barnwr, Keith Thomas, y byddai'r achos llys yn dechrau ar 8 Ionawr 2018, a bydd gwrandawiad ar 13 Hydref eleni i adolygu'r achos.