Cyfrinfa'r Seiri Rhyddion yn Y Bala yn agor ei drysau

  • Cyhoeddwyd
Seiri Rhyddion
Disgrifiad o’r llun,
35 o aelodau sydd gan gyfrinfa'r Bala ar hyn o bryd

Mae cyfrinfa'r Seiri Rhyddion yn Y Bala yn agor eu drysau i'r cyhoedd mewn digwyddiad arbennig ddydd Sadwrn.

Mae'r diwrnod yn rhan o ddathliadau pen-blwydd y mudiad yn 300 oed eleni.

Yn ôl ysgrifennydd cyfrinfa'r Bala, bwriad agor y drysau yw codi ymwybyddiaeth am waith y corff.

Dywedodd Arwel Jones ei fod am ddangos bod y Seiri Rhyddion "yno, ac yn gwneud daioni".

'Agor y byd i fyny'

Fe fydd cyfrinfa'r Bala - sy'n cwrdd saith gwaith y flwyddyn - yn dathlu eu pen-blwydd yn 150 yn 2022.

"'Da ni'n trio gadael i bobl wybod be' 'da ni'n ei wneud fel bod pobl ddim yn meddwl ei bod ni'n gwneud petha' 'da ni ddim yn ei wneud," meddai Mr Jones.

Dywedodd bod rhai yn dal i gredu bod y gymdeithas yn gwneud "drygioni", ond ei fod am ddangos i bobl leol nad ydy hynny'n wir.

Fe ddywedodd hefyd bod y grŵp wedi "agor y byd i fyny" iddo, a'u bod yn casglu arian i elusennau'r Seiri Rhyddion a rhai lleol.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Arwel Jones yn dweud bod y Seiri Rhyddion "yno, ac yn gwneud daioni"

Ar hyd o bryd, 35 o aelodau sydd gan gyfrinfa'r Bala, ac mae Mr Jones yn awyddus i ddenu mwy o'r ardal i ymuno.

"'Da ni'n gobeithio cael 'chwaneg o aelodau, ond mae'n rhaid i bobl ddod yn eu blaenau," meddai.

Ychwanegodd mai ei obaith yw y bydd pobl leol, yn enwedig, yn dod i'r digwyddiad i'w gweld.

Fe fydd y diwrnod "werth ei wneud" os yw hynny'n digwydd, meddai.