Dyn wedi'i anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A487 ger gorsaf betrol Pelcomb
Mae dyn wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad rhwng fan a char 4x4 ar yr A487 yn Sir Benfro.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad rhwng Hwlffordd a Niwgwl am tua 20:30 nos Wener.
Fe gafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau all newid ei fywyd yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng fan Ford Transit arian a char Hyundai Tucson du.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio i unrhyw dystion gysylltu â'r llu trwy ffonio 101.