Anturiaethwr yn gorffen her copâu'r DU yng Nghymru

Alex Staniforth Pen-y-Fan Image copyright @alex_staniforth
Image caption Mae Alex Staniforth wedi cyrraedd copa nifer o fynyddoedd yng Nghymru yr wythnos hon, gan gynnwys Pen-y-Fan

Mae anturiaethwr wedi cwblhau ei nod o gyrraedd pwynt uchaf pob sir yn y DU wedi iddo ddringo copa yng ngogledd Cymru ddydd Sul.

Mae Alex Staniforth o Sir Caer eisoes wedi cyrraedd copa Pen-Y-Fan, Fan Foel a'r Wyddfa ers dechrau ei her ar 13 Mai.

Roedd y gŵr 22 oed yn dringo Moel Famau, ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint ddydd Sul.

Nawr ei fod wedi gorffen, mae wedi dringo uchder sy'n cyfateb â chyrraedd copa Everest 13 gwaith.

Image copyright Alex Staniforth
Image caption Alex Staniforth yn Chwarel y Fan - pwynt uchaf Sir Fynwy

Mr Staniforth yw'r person ieuengaf i gwblhau her y Tri Chopa - cyrraedd copa Ben Nevis, Scafell Pike a'r Wyddfa o fewn 24 awr - ac mae wedi ceisio dringo Everest ar ddau achlysur.

Bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w ymdrech ddiweddaraf yn 2015 oherwydd trychineb, wedi i gwymp eira ladd tri o'i ffrindiau.

Mae Mr Staniforth yn cynnal ei her bresennol i godi arian i elusen iechyd meddwl Young Minds, ac mae wedi casglu £15,000 hyd yn hyn.