Medal arian i Jordan Howe yn y T35 100m

  • Cyhoeddwyd
Jordan HoweFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth y Cymro Jordan Howe ennill medal arian yn ras T35 100m ym Mhencampwriaethau Para-athletau'r Byd yn Llundain ddydd Sul.

Dyma oedd y tro cyntaf i'r rhedwr ifanc o Gaerdydd berfformio ar lwyfan rhyngwladol.

Fe wnaeth Howe, sydd â pharlys yr ymennydd, osod record bersonol o 12.52 eiliad wrth i Ihor Tsvietov o Iwcraen ennill yr aur.

"Dyma oedd fy amser i serennu ac fe wnes i," meddai. "Roedd fy meddwl yn dawel, doeddwn i ddim yn nerfus. Rydw i eisiau symud 'mlaen a pharhau i wella."