Mynd i'r afael â thrwbl mewn tref wyliau yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi lansio ei ymgyrch fwyaf i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn tref yn Sir Benfro ble gall y boblogaeth gynyddu 10 gwaith mwy na'r arfer dros yr haf.
Bydd rhagor o heddweision yng nghanol Dinbych-y-pysgod ar benwythnosau ac ar drenau'n dod i mewn i'r dref.
Fe fydd Trenau Arriva Cymru hefyd yn darparu mwy o staff diogelwch.
Nod Ymgyrch Lion yw ceisio atal ymddygiad gwrthgymdeithasol cyn iddo gyrraedd Dinbych-y-pysgod.
'Parchu'r dref'
Mae'r ymgyrch yn ei bumed flwyddyn eleni, ond mae wedi bod yn cynyddu pob blwyddyn.
Mae canol y dref wedi bod yn "ardal yfed reoledig" ers 2014, sy'n golygu bod yfed ar y stryd wedi'i wahardd.
Dywedodd yr Arolygydd Aled Davies o Heddlu Dyfed Powys: "Poblogaeth Dinbych-y-pysgod fel arfer yw tua 5,000 i 6,000, ond yn yr haf gall hynny godi i 60,000.
"Mae 99% o'r bobl sy'n dod i Ddinbych-y-pysgod eisiau dod yma a mwynhau'r dref fel ymwelwyr, a'r oll d'yn ni'n ei ofyn yw i'r bobl sy'n dod yma yw iddyn nhw barchu'r dref.
"Ond yn y gorffennol d'yn ni wedi gweld rhai yn dod yma i ymweld â'r tafarndai a'r clybiau, sydd yna'n achosi trwbl ar ôl yfed yn ormodol."