Cynnydd o 3.1% mewn gweithgynhyrchu yng Nghymru
- Published
Mae nifer y cynhyrchwyr yng Nghymru wedi cynyddu 3.1% ers y llynedd, yn ôl adroddiad newydd.
Mae'r adroddiad rhagolwg rhanbarthol yn dweud fod gan Gymru 5,680 o gwmnïau gweithgynhyrchu erbyn hyn, a 156,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector - 10.7% o gyfanswm gweithlu'r wlad.
Roedd hyder mewn busnesau yn parhau i fod yn uchel hefyd, medd yr adroddiad, "er gwaethaf y tirwedd gwleidyddol ansicr".
Mae'r adroddiad yn seiliedig ar ddata a ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
'Cadarnhaol'
Cafodd yr adroddiad ei baratoi gan sefydliad y cyflogwyr, EEF, a chynghorwyr cyfrifeg a busnes o BDO LLP, a dywedodd yr adroddiad bod swyddi gweithgynhyrchu wedi codi 10.6% ers mis Mawrth 2010.
Dywedodd Paul Byard, cyfarwyddwr EEF Cymru: "Mae hyn yn newyddion cadarnhaol i Gymru, gyda'n chydbwysedd allbwn yn perfformio'n well na gweddill y DU unwaith eto.
"Mae hyder yn y sector yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel, er gwaethaf y wasgfa ar gyllidebau yn enwedig yn y cartref."