Caniatâd cynllunio i bwerdy nwy £300m yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Pwerdy nwy tebyg i'r un mae Wrexham Power Ltd yn bwriadu ei adeiladu
Mae caniatâd cynllunio wedi ei roi ar gyfer pwerdy nwy newydd gwerth £300m ar stâd ddiwydiannol yn Wrecsam.
Yn ôl y datblygwyr, Wrexham Power Ltd mae disgwyl y bydd y pwerdy yn creu 30 o swyddi sgiliau uchel parhaol unwaith y bydd yn weithredol.
Byddai hyd at 515 o swyddi hefyd yn cael eu creu yn ystod y cyfnod adeiladu o dair blynedd.
Penderfynodd yr Arolygiaeth Gynllunio roi sêl bendith yn dilyn proses o dair blynedd gan gynnwys ymgynghoriad gyda'r cyhoedd.
Mae'r cwmni yn dweud y bydd y datblygiad yn golygu fod Stad Ddiwydiannol Wrecsam yn llai dibynnol ar fewnforio ynni.
Ond cafodd cynlluniau blaenorol ar gyfer peilonau a cheblau uwchben y tir er mwyn cludo'r ynni eu gollwng, yn dilyn protestio gan drigolion lleol.