Cynllun Cymunedau'n Gyntaf yn 'dasg bron yn amhosib'
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad wedi datgan ei bod hi'n "dasg bron yn amhosib" i gynllun lleihau tlodi fod yn llwyddiannus.
Fe gafodd cynllun Cymunedau'n Gyntaf ei feirniadu yn dilyn ymchwiliad gan y llywodraeth a ddaeth i'r canlyniad nad oedd wedi "cyflawni digon" i leihau lefelau tlodi.
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant AC, ddiddymu'r cynllun ym mis Chwefror eleni drwy ddweud bod perfformiad y cynllun wedi bod yn "gymysglyd".
Fe gafodd cyfanswm o £432m ei wario ar y cynllun o 2001 ymlaen.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef nad oedd y cynllun wedi cael "effaith sylweddol".
Mae cynllun Cymunedau'n Gyntaf yn cefnogi cynlluniau gwrth dlodi mewn 52 o ardaloedd gwahanol yng Nghymru, ac fe fydd cyllid ar gyfer y cynllun yn dod i ben ym Mawrth 2018.
Mae'r adroddiad gan bwyllgor cydraddoldeb, llywodraeth leol a chymunedau wedi darganfod bod "swm sylweddol o arian cyhoeddus wedi ei wario" a'i bod hi'n "anodd gwneud asesiad llawn o lwyddiant y cynllun."
Dywedodd ei bod hi'n dasg "bron yn amhosib lleihau tlodi a allai byth gael ei gyflawni drwy un cynllun unigol."
Daeth yr adroddiad i'r canlyniad y dylai'r penderfyniad ynglŷn â "diddymu'r cynllun fod wedi cael ei reoli'n well".
'Newid bywydau'
Mae'r pwyllgor hefyd wedi dadlau y gallai canolfannau cymunedol gael eu colli yn sgil diddymu'r cynllun a gwasanaethau eraill sy'n gaffaeliad i gymunedau.
Mae cyllid gwerth £6m wedi cael ei neilltuo am ddwy flynedd o fis Ebrill ymlaen fel rhan o gronfa etifeddiaeth y cynllun, ac fe allai hynny gael ei ymestyn am ddwy flynedd wedi hynny yn ôl Mr Sargeant.
Dywedodd y pwyllgor y bysai'n fanteisiol "petai hynny'n cael ei gadarnhau cyn gynted a phosib".
Ychwanegodd yr adroddiad ymysg pethau eraill bydd diddymu Cymunedau'n Gyntaf yn cael effaith andwyol ar raglenni eraill oedd yn ddibynnol ar y cynllun.
Dywedodd John Griffiths, cadeirydd y pwyllgor cydraddoldeb,: "I lawer o bobl, mae Cymunedau'n Gyntaf wedi newid eu bywydau, ac rydym yn gwybod ei fod wedi gwneud gwaith gwych mewn cymunedau ledled Cymru.
"Ond rydym yn pryderu bod rhaid i Lywodraeth Cymru ddysgu gwersi ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol sy'n mynd i'r afael â thlodi, gan sicrhau fod cynnydd yn fesuradwy fydd yn seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio, a bod elfennau llwyddiannus Cymunedau'n Gyntaf, a allai gael ei gyflwyno gan gyrff cyhoeddus eraill ac yn cael eu gwerthfawrogi'n lleol ac yn cael eu trosglwyddo i wasanaethau cyhoeddus eraill i'w gyflawni."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er bod rhaglen Cymunedau'n Gyntaf wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer o unigolion, nid yw wedi cael effaith sylweddol ar lefelau tlodi yng Nghymru sy'n parhau'n uchel."
Ychwanegodd fod y llywodraeth yn gweithio i osod yr egwyddorion ar gyfer y gronfa etifeddiaeth "a fydd yn galluogi rhai o'r agweddau mwyaf effeithiol o'r rhaglen i barhau.
"Bydd £4m ychwanegol yn y flwyddyn yn cael ei roi i'r rhaglen Cyfleusterau Cymunedol o 2017/18 er mwyn helpu amddiffyn buddiannau cymunedol, gan roi blaenoriaeth i ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf, tra bod £12m y flwyddyn o grant yn cael ei lansio i gefnogi'r rhai 'sydd bellaf o'r farchnad lafur' meddai.
Straeon perthnasol
- 14 Chwefror 2017
- 8 Hydref 2012
- 14 Mehefin 2015