Pryder y gallai fflatiau Bae Caerdydd 'ddinistrio' parc
- Cyhoeddwyd

Byddai cynlluniau i godi adeilad 24 llawr ar gyfer fflatiau, siopau a bwytai ym Mae Caerdydd yn dinistrio'r unig barc yn yr ardal, yn ôl ymgyrchwyr.
Mae'r datblygwyr, Associated British Ports (ABP), yn dweud y byddai Cei Dolffin yn golygu cannoedd o dai newydd, gan adfywio'r rhan honno o'r ddinas.
Ond mae gwrthwynebwyr y cynlluniau yn pryderu am golli ardal y parc, yn ogystal â'r effaith bosib ar yr Eglwys Norwyaidd gyfagos.
Yn eu plith mae'r Arglwydd Crughywel, wnaeth sefydlu Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd nôl yn 1987.
'Ofnadwy'
Mae ABP yn dweud y byddai eu cynlluniau yn parhau â'r broses o adfywio ardal y Bae, ac y bydden nhw'n gwella Parc Britannia ger yr Eglwys Norwyaidd.
Byddai'r cynlluniau hefyd yn golygu symud hen gwt gweithwyr, sydd yn adeilad rhestredig Gradd II, i Fasn y Rhath.
Ond mae gwrthwynebwyr y cynllun yn dweud y byddai Cei Dolffin yn dinistrio'r unig ardal werdd yn y bae, tra bod Cymdeithas Sifig Caerdydd wedi dadlau fod y cynlluniau'n "peri risg go iawn i lwyddiant y bae yn ei chyfanrwydd".
Mae dros 1,500 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb yn erbyn y datblygiad.
"Mae'n amlwg yn mynd yn groes i bopeth gafodd ei ddylunio a'i ddatblygu gan Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd," meddai'r Arglwydd Crughywel, cyn-Ysgrifennydd Cymru.
"Mae'r syniad y byddech chi'n cau parc hynod ddeniadol, fydden ni erioed wedi meddwl am wneud hynny.
"Mae'r cynllunio ar ei gyfer yn hollol drychinebus. Bydd yr holl beth yn edrych yn ofnadwy."
Ychwanegodd cadeirydd Cymdeithas Sifig Caerdydd, Nerys Lloyd-Pierce y byddai'r "datblygiad masnachol ansensitif" yn "dinistrio" ardal ddeniadol o'r bae.
'Ardaloedd gwyrdd deniadol'
Mewn ymateb dywedodd ABP fod datblygiad wedi'i ddylunio er mwyn creu "ardal gyhoeddus gydag ardaloedd gwyrdd deniadol y bydd modd eu defnyddio".
Ychwanegodd y cwmni y byddai'r cynlluniau yn sicrhau bod "ardal agored o safon uchel" yn rhan ddwyreiniol y bae.
Bydd cyfarfod cyhoeddus i wrthwynebu'r cynlluniau yn cael ei gynnal ar y safle nos Fawrth.
Mae disgwyl i gais cynllunio gael ei gyflwyno i Gyngor Caerdydd yn fuan.