'Wal dafodiaith' mewn ysgol i ddathlu iaith Penfro
- Cyhoeddwyd

(Rhes gefn, o'r chwith i'r dde) Y Cynghorydd Cris Tomos, Rhys Padarn, Enfys Howells, gyda (rhes flaen, o'r chwith i'r dde) Dora Ashe, Esme Richards, Annabelle Sykes, Ffion Evans a Ffion Davies
Mae disgyblion ysgol yn Sir Benfro wedi bod yn cydweithio ag artist i ddathlu tafodiaith yr ardal.
Canlyniad y prosiect yn Ysgol Bro Ingli yn Nhrefdraeth yw 'wal dafodiaith' sydd ar ddrysau neuadd yr ysgol.
Rhai o'r geiriau sydd ar y 'wal dafodiaith'
- Ffrwcs (enw): Sbwriel, chwyn;
- Macyn (enw): Hances;
- Rwto (berf): Sgrwbio neu rwbio;
- Whilibowan (berf): Gwastraffu amser, dilidalio.
Bwriad y prosiect, gafodd ei arwain gan yr arlunydd Rhys Padarn, yw annog y plant i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'i gilydd.
"Mae gan yr ardal hon dafodiaith unigryw, ac mae'n bwysig bod disgyblion Bro Ingli yn cydnabod ac yn defnyddio'r dafodiaith hon o ddydd i ddydd," meddai pennaeth yr ysgol, Enfys Howells.
"Mae pawb yn credu bod y wal yn anhygoel."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2016