Ffracio: Cyhuddo comisiynydd heddlu o 'gamddefnyddio pŵer'
- Cyhoeddwyd
Mae Arfon Jones yn cwestiynu ai lle Heddlu Gogledd Cymru yw "plismona fel swyddogion diogelwch" ar safleoedd ffracio yn Lloegr
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd y gogledd wedi gwadu ei fod wedi gorfodi'r llu i roi'r gorau i anfon swyddogion i brotest ffracio yn Sir Gaerhirfryn.
Cyfaddefodd Arfon Jones fodd bynnag ei fod wedi gwneud ei farn gwrth-ffracio yn glir, gan ychwanegu y gallai fod wedi bod yn "ffactor".
Mae Mr Jones wedi cael ei gyhuddo gan ymgyrchwyr o blaid ffracio o "gamddefnyddio pŵer" wrth roi pwysau ar yr heddlu i wneud y penderfyniad.
Roedd Heddlu'r Gogledd wedi bod yn anfon un sarsiant a chwe chwnstabl i'r brotest, a hynny er mwyn cynorthwyo'r llu lleol yn eu hymdrechion plismona.
'Camddefnyddio pŵer'
Dywedodd grŵp ymgyrchu Backing Fracking ei bod hi'n amhriodol i Mr Jones ymyrryd yn y mater gan ei fod wedi protestio yn erbyn ffracio yn y gorffennol.
"Mae'n warthus fod Mr Jones yn meddwl y gall ddefnyddio ei benodiad gwleidyddol i geisio israddio ymateb yr heddlu i'r protestio dyddiol yn erbyn ffracio yn Sir Gaerhirfryn, yn enwedig gan ei fod yn gwrthwynebu echdynnu nwy siâl," meddai llefarydd ar ran y grŵp.
"Dyna union ddiffiniad ffrindgarwch a chamddefnyddio pŵer.
"Dychmygwch y banllefau o brotest petai'r gwrthwyneb yn wir - fyddai pobl falch gogledd Cymru byth yn goddef y peth petaen nhw'n credu bod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Sir Gaerhirfryn yn ymyrryd ym materion eu llu heddlu nhw."
Ond mae Mr Jones o Blaid Cymru, gafodd ei ethol i'r swydd yn 2016, wedi mynnu fod hawl ganddo i "siarad fy marn" fel gwleidydd etholedig.
"Mae'r penderfyniad gweithredol i anfon adnoddau at Heddlu Sir Gaerhirfryn yn un i Heddlu Gogledd Cymru, nid i mi," meddai.
Ychwanegodd: "Ydi hi'n iawn eu hanfon nhw i Sir Gaerhirfryn pan mae trethdalwyr gogledd Cymru yn disgwyl iddyn nhw fod yma?
"Cwestiwn arall yw, a ddylai plismyn gael eu defnyddio fel swyddogion diogelwch ar gyfer cwmnïau anferth, a hynny heb fod yn cyfrannu at y gost?"
'Nid y prif reswm'
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru wedi gosod moratoriwm ar ffracio - proses o dyllu i'r ddaear a phwmpio hylif i mewn yno er mwyn echdynnu nwy neu olew.
Roedd hynny, meddai Mr Jones, yn codi cwestiynau ynglŷn ag "a ddylai heddlu Cymru fynd i helpu gyda phrotest ffracio pan mae'n rhywbeth sydd wedi ei wahardd yng Nghymru".
Cyfaddefodd ei bod hi'n bosib fodd bynnag fod ei farn bersonol wedi dylanwadau rhywfaint ar benderfyniad y llu.
"Byddai'n rhaid i chi ofyn hynny [i Heddlu'r Gogledd]. Allai ddychmygu ei fod o'n ffactor, ond dwi'n meddwl mai'r prif reswm yw'r galw ar adnoddau Heddlu Gogledd Cymru yn enwedig yn ystod misoedd yr haf."
Wrth esbonio'r penderfyniad i dynnu swyddogion yn ôl, dywedodd dirprwy prif gwnstabl Heddlu'r Gogledd, Gareth Pritchard eu bod yn "aml yn cefnogi cydweithwyr ar draws y rhanbarth pan allwn ni a phan gawn ni gais".
"Fel llu, rydyn ni hefyd yn elwa o'u cymorth nhw a dyw hi ond yn iawn ein bod ni, pan allwn ni, yn ad-dalu hynny."
Ychwanegodd fod gofynion uchel ar Heddlu'r Gogledd dros yr haf yn golygu nad oedd modd iddyn nhw barhau i ddarparu'r gefnogaeth.
"Mae ein cydweithwyr yn Heddlu Sir Gaerhirfryn yn ymwybodol ac yn deall y penderfyniad," meddai.