Mam yn brwydro canser ar ôl cael 'camddiagnosis'

  • Cyhoeddwyd
Tina LockeFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Tina Locke wedi cael diagnosis o iselder i ddechrau, meddai ei theulu

Mae teulu dynes sydd yn dioddef o ganser y stumog yn dweud mai ond wyth wythnos sydd ganddi i fyw, a hynny wedi i feddygon roi diagnosis gwahanol iddi i ddechrau.

Roedd Tina Locke, 43 o Benygraig, Rhondda a mam i ddau o blant, wedi bod yn teimlo'n wael am tua dwy flynedd ac wedi gofyn am brofion.

Ond dywedodd ei gŵr, Jason fod y gwasanaeth iechyd wedi gwneud cam â hi am nad oedden nhw wedi ymchwilio i'w chwynion yn iawn.

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Tawe yn dweud eu bod yn edrych i'r mater.

'Anghredadwy'

Dywedodd Mr Locke, 51, fod ei wraig wedi bod yn cwyno am boenau ond ei bod hi wedi cael diagnosis o iselder yn lle hynny.

Dim ond ar ôl gofyn dro ar ôl tro am endosgopi, a chael un yn y diwedd, y cafwyd hyd i'r math prin o ganser y stumog oedd ganddi.

"Mae fy mhlant yn mynd i gael eu gadael heb fam, a byddai heb wraig, a dim ond 43 yw hi," meddai.

"Allech chi ddim dychmygu'r peth, mae'n anghredadwy, yn syfrdanol - mae fy nghalon wedi chwalu'n llwyr."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,
Dyw Jason heb adael ochr ei wraig yn Ysbyty Bro Morgannwg ers iddi gael y diagnosis o ganser ym mis Ebrill eleni

Dywedodd fod y teulu wedi cael clywed gan y GIG y byddai cemotherapi yn ormod o risg, ond maen nhw nawr yn gobeithio codi arian er mwyn teithio i'r Almaen am driniaeth.

"Barn y GIG yw ei bod hi am farw, ond yn fy marn i mae arnyn nhw ei bywyd iddi - os oes hyd yn oed hanner cyfle mae dyletswydd arnyn nhw i drio. Dwi am ymladd ac ymladd," meddai Mr Locke.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Cwm Tawe: "Dydyn ni ddim yn gallu gwneud sylw ar gleifion unigol a'r amgylchiadau yn ymwneud â'u gofal nhw.

"Fodd bynnag, rydyn ni'n ymwybodol o'r achos ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal."