Carcharu cyn-hyfforddwr tennis am gam-drin merch ifanc
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-hyfforddwr tennis wedi cael ei garcharu am chwe blynedd am gam-drin merch ifanc.
Cafodd Daniel John Sanders, 42 oed ac o Wrecsam yn wreiddiol, ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar ôl pledio'n euog i wyth cyhuddiad yn ei erbyn.
Roedd yn cynnwys saith cyhuddiad o weithred rhyw gyda merch, ac un cyhuddiad o achosi merch i gyflawni gweithred ryw.
Cafodd Sanders orchymyn i arwyddo'r gofrestr troseddwyr rhyw am oes, ac mae hefyd wedi'i atal rhag gweithio gyda phlant ifanc.
'Ffiaidd'
Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands: "Roeddech chi'n ddyn yn eich 40au oedd yn benderfynol o gymryd mantais o ferch ifanc yn y ffordd fwyaf ffiaidd."
Mewn datganiad ychwanegodd y ditectif uwch-arolygydd Jane Bowyer Jones: "Fe wnaeth Sanders fanteisio'n droseddol ar yr ymddiriedaeth ynddo ac mae'n iawn ei fod wedi cael dedfryd o chwe blynedd yn y carchar.
"Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn erlyn yn gadarn y rheiny sydd yn cyflawni troseddau o'r fath, a'u rhoi nhw o flaen eu gwell."
Roedd Sanders, sydd yn dad i dri o blant a bellach yn byw yng Ngwlad yr Haf, yn gyn-chwaraewr tennis proffesiynol tan 1996, ac fe chwaraeodd gyda Tim Henman unwaith.