Carcharorion yng Nghaerdydd wedi creu dyfais ffrwydrol
- Published
Mae hi wedi dod i'r amlwg fod pedwar dyn wedi eu harestio ar ôl ceisio gwneud dyfais ffrwydrol yng ngharchar Caerdydd.
Fe ddaeth y digwyddiad ar 15 Mehefin i sylw'r awdurdodau wedi i weithiwr yn y carchar gysylltu ag AC Gorllewin De Cymru, Bethan Jenkins.
Ar ddiwrnod y digwyddiad dywedodd Heddlu De Cymru fod potel yn cynnwys hylif anhysbys wedi "ffrwydro a llithro ar hyd y llawr".
Mae tri o'r dynion yn parhau i fod dan ymchwiliad, a fydd y pedwerydd dyn ddim yn wynebu camau pellach.
'Dim cymhelliad terfysgol'
Fe anfonodd y Gweinidog Carchardai, Sam Gyimah lythyr at Ms Jenkins yn cadarnhau'r digwyddiad.
Roedd y llythyr yn dweud fod cyfarwyddwr y carchardai sector cyhoeddus yn ne Cymru'n fodlon fod mesurau yn eu lle i atal hyn rhag digwydd eto.
Ychwanegodd y llythyr nad oedd lle i gredu bod cymhelliad terfysgol i'r digwyddiad.
Mewn llythyr arall, dywedodd Ms Jenkins: "Cefais wybod gan yr aelod staff fod carcharorion wedi gwneud dyfais ffrwydrol allan o ddeunydd gwynnu te, sy'n llosgi'n hawdd.
"Rwy'n deall fod y ddyfais wedi cael ei hatal rhag ffrwydro yn yr achos hwn, ond bod staff yn dibynnu ar ymddygiad carcharorion i osgoi digwyddiad difrifol fel hyn.
"Cefais wybod, petaen nhw'n gwrthryfela, y gallen nhw gymryd drosodd mewn llai na 10 munud, a bod hyn wedi bron â digwydd yn ddiweddar.
"Awgrymodd yr aelod staff eu bod hefyd yn brin iawn o staff, a'u bod felly'n poeni na fydden nhw'n gallu ymateb yn ddigonol i ddigwyddiad brys."
Fe wnaeth Ms Jenkins gwestiynu lefelau staffio ar y safle a gofyn a fyddai mwy o gefnogaeth yn cael ei roi i Garchar Caerdydd o ganlyniad i'r digwyddiad.
Digwyddiad 'bychan'
Wrth ymateb, dywedodd Mr Gyimah fod 165 o swyddogion a 35 o staff gweithredol yng Ngharchar Caerdydd ar hyn o bryd, sydd 18 yn brin o'r targed staffio.
Daeth cadarnhad o'r digwyddiad gan y Gweinidog Cyfiawnder, a ddywedodd nad oedd carcharorion na staff wedi eu hanafu.
Ychwanegodd llefarydd: "Cafodd y mater ei gyfeirio at yr heddlu a fyddai hi ddim yn briodol i wneud sylw pellach ar hyn o bryd."
Dywedodd Heddlu'r De fod y digwyddiad yn un "bychan".