Ditectifs yn Sir Benfro yn ddieuog o dwyllo manylion
- Cyhoeddwyd

Mae dau aelod o uned gwrth derfysgaeth yn Abergwaun wedi eu cael yn ddieuog o dwyll, yn dilyn cyhuddiadau iddyn nhw lwytho manylion ffug am eu horiau gwaith i rwydwaith gyfrifiaduron Heddlu Dyfed Powys.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Timothy Pawlett, 52, a'r Ditectif Gwnstabl Gareth Clement, 55 wrth Lys y Goron Abertawe eu bod wedi llwytho manylion anghywir 120 o weithiau, ond roedden nhw'n mynnu nad oedden nhw wedi gweithredu'n anonest.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth am 20 munud, dyfarnodd y rheithgor eu bod yn ddieuog.
Clywodd y llys bod y ddau yn aelodau o'r Uned Gwrth Derfysgaeth ac Eithafiaeth Gymreig, ac mai eu swydd oedd monitro pobl allai fod yn derfysgwyr oedd yn cyrraedd neu adael y wlad drwy'r gwasanaeth fferi rhwng porthladd Abergwaun a Rosslare yn Iwerddon.
Dywedodd DC Pawlett o Hwlffordd a DC Clement o Grymych wrth y rheithgor eu bod dan gymaint o straen oherwydd amgylchiadau yn eu bywydau preifat, fel na ddylen nhw fod wedi bod ar ddyletswydd o gwbl.
Cafodd lluniau o gamerâu o amgylch y porthladd eu hastudio gan gydweithwyr i'r ddau, a gofrestrodd eu ceir yn cyrraedd yn hwyr a gadael yn gynnar ar nifer o achlysuron rhwng Tachwedd 2015 a Chwefror 2016.
Ar rai achlysuron, fe gofrestrodd DC Pawlett a DC Clement wybodaeth eu bod wedi gweithio shifftiau llawn, pan, mewn gwirionedd, roedden nhw wedi cyrraedd yn hwyr a gadael yn gynnar, weithiau o rai oriau.
Dywedodd y ddau iddyn nhw weithiau gofrestru eu horiau ddyddiau'n ddiweddarach, ac nad oedden nhw wastad yn gallu cofio pa oriau roedden nhw wedi eu gweithio.
Roedd yr erlyniad yn hawlio fod y wybodaeth wedi arwain at dalu'r swyddogion am waith nad oedden nhw wedi ei wneud.