Cerddwr wedi marw ar fynydd Tryfan yn Nyffryn Ogwen

  • Cyhoeddwyd
Tim AchubFfynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen

Mae cerddwr wedi marw ar ôl disgyn ar fynydd Tryfan yng Ngwynedd brynhawn dydd Iau.

Fe gafodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw wedi i ddynes a'i meibion ddod o hyd i gorff y dyn.

Y gred yw bod y dyn yn ei 20au neu ei 30au ac yn dod o ogledd-orllewin Lloegr.

Mae'n ymddangos iddo ddisgyn wrth geisio dod i lawr ceunant gogleddol y mynydd.