Cyhoeddi enw bachgen 17 oed fu farw ger Capel Curig
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau enw'r llanc fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A4068 yng Nghapel Curig ddydd Iau.
Roedd Jack Keene yn 17 oed ac yn dod o Sir Hertford.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad rhwng Gwesty Penygwryd a Chapel Curig am tua 07:00.
Roedd dynes 18 oed hefyd wedi dioddef anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad, ac fe gafodd pedwar arall eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gydag anafiadau llai difrifol.
Mae ei deulu wedi dweud: "Roedd Jack yn garedig a chariadus gan gyffwrdd bywydau pawb yr oedd yn ei gyfarfod. Byddai ei bresenoldeb a'i garisma yn goleuo ystafell."
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio am dystion, ac yn awyddus i siarad ag unrhyw un welodd gar Renault Clio du yn teithio rhwng Beddgelert a Phenygwryd rhwng 06:30 a 07:00.