Arestio dyn wedi gwrthdrawiad car a cherddwr Caerdydd
- Published
image copyrightGoogle
Mae dyn wedi ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yng Nghaerdydd lle cafodd dyn ei daro gan gar.
Cafodd y dyn 23 oed o ardal Cathays yng Nghaerdydd ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car BMW a cherddwr 45 oed o'r Barri ar gyffordd Heol Wood a Heol Scott ddydd Mercher.
Mae'r cerddwr yn parhau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Dywedodd y Sarjant Richard Jones o Heddlu Gogledd Cymru bod swyddogion yn parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad.