Trên yn taro gwifrau trydan ac yn anafu tri yn Y Fenni
- Cyhoeddwyd

Cafodd tri o bobl eu hanafu wedi i drên daro gwifrau trydan yng ngorsaf Y Fenni nos Wener.
Cafodd y tri eu bwrw gan y gwifrau wedi i wasanaeth Trenau Arriva Cymru o Gaergybi gyrraedd yr orsaf tua 18:00.
Aeth y tri i'r ysbyty, cyn cael eu rhyddhau yn ddiweddarach gyda chleisiau mân.
Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail bod y gwifrau trydan uwchben y cledrau wedi syrthio a dod yn rhydd, ond nad oedden nhw'n gwybod pam.
Yn ôl Trenau Arriva Cymru, mae'r digwyddiad wedi tarfu "yn ddifrifol" ar wasanaethau yn yr ardal.
Dywedodd Network Rail bod y rheilffordd i gyfeiriad Henffordd eisoes wedi ailagor nos Wener, a'u bod yn disgwyl i'r orsaf ailagor erbyn bore Sadwrn.