Yr Eisteddfod yn 'fodlon iawn' gyda chyflwr y Maes

Madi o Borthmadog
Image caption Madi o Borthmadog yn ymarfer ar faes sydd, ar hyn o bryd, yn sych

Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud eu bod yn "fodlon iawn, iawn" gyda chyflwr y Maes wrth i'r ŵyl ddechrau croesawu ymwelwyr a chystadleuwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran y brifwyl ddydd Sadwrn eu bod yn "gobeithio am dywydd braf" ond eu bod hefyd yn "cynllunio am bob math" o sefyllfa.

Yn ôl rhagolygon y tywydd, mae disgwyl iddi fod yn sych ar y cyfan ddydd Sadwrn, ond mae perygl o law ddydd Sul.

Image caption Yr awyr yn las ar y Maes ddydd Sadwrn

"'Dan ni 'di cael ychydig bach o law, ond hefyd gwynt sydd wedi sychu'r maes yn arbennig o dda", meddai'r llefarydd.

"Wrth i chi gerdded o gwmpas, 'dach chi'n gweld bod y cae mewn cyflwr da - mae o'n wyrdd a hyfryd.

"Jyst gobeithio rŵan am dywydd braf - a bydd pobl yn tyrru yma yn y tywydd braf."

Pan ofynnwyd os oedd cynlluniau yn eu lle rhag ofn iddi fwrw, dywedodd y llefarydd: "'Dan ni'n cynllunio at bob math o bethau, ond ar hyn o bryd, mae'n edrych yn dda, a 'dan ni'n fodlon iawn, iawn."

Yn gynharach, dywedodd trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis, bod mesurau fel rhoi cerrig ar y maes yn ffordd o fynd i'r afael â mwd pe bai'n bwrw.

Pynciau Cysylltiedig