Eisteddfod Môn: Y Glêr yn ennill rownd derfynol Y Talwrn
- Cyhoeddwyd

Pencampwyr y Talwrn, Y Glêr, gyda'r Meuryn, Ceri Wyn Jones
Y Glêr aeth â hi yn rownd derfynol Talwrn y Beirdd ar faes yr Eisteddfod ddydd Sadwrn.
Roedd y tîm - Eurig Salisbury, Osian Rhys Jones, Iwan Rhys a Hywel Griffiths - yn wynebu pencampwyr y llynedd, Y Ffoaduriaid.
Cafodd gwobrau unigol hefyd eu rhoi yn ystod y digwyddiad yn y Babell Lên, gyda Llion Jones yn cael Tlws Coffa Dic Jones am gywydd gorau'r gyfres.
Ac ynghyd â chipio'r brif wobr gyda'i dîm, cipiodd Osian Rhys Jones Dlws Cledwyn am delyneg orau'r gyfres.
Llion Jones oedd enillydd Tlws Coffa Dic Jones