Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad â char
- Cyhoeddwyd

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda char ym Mhort Talbot.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Heol Cwmafan toc wedi 10:00 fore Sul.
Bu farw'r beiciwr modur - dyn 37 oed o ardal Traethmelyn yn y dref - ac fe wnaeth gyrrwr y car ddioddef mân anafiadau.
Bu'r ffordd ar gau am nifer o oriau yn dilyn y digwyddiad ger y gyffordd â Heol Heilbronn o dan yr M4.
Cafodd y ffordd ei ailagor tua 15:40 brynhawn Sul.