Siom i Forgannwg yn erbyn Sir Hampshire
- Cyhoeddwyd

Roedd siom i Forgannwg yn eu gêm T20 yn erbyn Sir Hampshire yn Southampton nos Iau.
Ar ôl galw'n gywir a dewis batio, sgôr siomedig gafodd Morgannwg gan gyrraedd 118 am 6 wiced yn eu 20 pelawd.
Heblaw am fatiad o 37 gan Andrew Salter yn hwyr yn y batiad fe allai fod wedi bod yn llawer gwaeth.
Roedd hi'n dalcen caled i'r bowlwyr o'r dechrau felly, ond daeth rhywfaint o obaith pan gipiodd Colin Ingram wiced yn ei belawd gyntaf.
Er hynny roedd James Vince a Tom Alsop yn ymddangos fel tasen nhw am orffen y gêm yn gynnar gyda'r ddau yn taro'r bêl i'r ffin yn gyson.
Daeth y rhediad i ennill y gêm yn fuan gyda'r tîm cartref yn cyrraedd y nod wedi 13.5 pelawd.
Mae Morgannwg yn dal ar frig y tabl T20 am y tro, ond maen nhw bellach wedi chwarae dwy gêm yn fwy na Sir Gaerloyw a gyda mantais o ddau bwynt yn unig.