Sajid Idris o Gaerdydd yn wynebu cyhuddiadau terfysgol
- Cyhoeddwyd

Mae cyn weithiwr gyda'r Post Brenhinol yng Nghaerdydd wedi ymddangos yn llys yr Old Bailey yn Llundain wedi ei gyhuddo o droseddau terfysgol.
Mae Sajid Idris, 35 oed o Grangetown, wedi ei gyhuddo o ledaenu cyhoeddiadau terfysgol ar y we, yn groes i Ddeddf Terfysgaeth 2006.
Cafodd Mr Idris, wnaeth ond siarad i gadarnhau ei enw, ei ryddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd y barnwr byddai achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Kingston ym mis Ionawr.