Prinder merched ym mhrif swyddi cynghorau Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae ffigyrau newydd yn dangos mai dim ond chwarter o brif swyddi cynghorau Cymru sy'n cael eu gwneud gan ferched.
Dim ond 26% o swyddi cabinet sy'n cael eu gwneud gan ferched o'i gymharu â 30% yn Lloegr, yn ôl ystadegau y Gymdeithas Diwygio Etholiadol.
Mae dau o gynghorau Cymru, Bro Morgannwg a Blaenau Gwent, yn cael eu harwain yn llwyr gan ddynion gwyn.
Yn ôl y Gymdeithas Diwygio Etholiadol mae'r diffyg amrywiaeth yn ddamniol, a dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod unrhyw gynnydd yn y maes yn "araf".
Mae elusen Chwarae Teg, sy'n sicrhau datblygiad economaidd menywod, bod y ffigyrau yn gywilyddus ac nad yw anghenion merched yn cael eu cynrychioli pan nad ydynt yn rhan o'r broses benderfynu.
Merched a chynghorau Cymru
- Dros hanner poblogaeth Cymru yn ferched;
- Pedair dynes sy'n brif weithredwyr;
- Pedair dynes sy'n arweinwyr;
- Chwe dynes sy'n ddirprwy arweinwyr;
- Dim aelodau cabinet benywaidd ar ddau gyngor;
- Cyfanswm o 50 aelod cabinet benywaidd a 188 o ddynion.
Dywedodd cyfarwyddwr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol Jessica Blair: "Mae hyn yn fethiant ar ran awudurodau i gynrhychioli etholwyr ac i annog amrywiaeth.
"Yn 2017 ddylen ni fod yn gwneud yn well ar fater sy'n sicrhau bod ein cynghorau yn gweithio mor effeithiol â phosib."
Yng nghabinet y Cynulliad mae pum merch o'i gymharu â saith dyn.
Yn ôl Chwarae Teg mae sefyllfa cynghorau Cymru yn "annerbyniol".
Er bod nifer y cynghorwyr benywaidd wedi cynyddu i 27.8% yn 2017 mae'r elusen yn dweud bod diffyg cynrychiolaeth o ferched yn y cabinet yn golygu nad yw merched yn cael eu cynrychioli'n iawn.
Dywedodd y Prif weithredwr Cerys Furlong: "Mae'n gywilyddus nad yw pleidiau gwleidyddol wedi symud ymlaen i gyflwyno newidiadau i sicrhau cyfartaledd ac felly dyw penderfyniadau ddim yn adlewyrchu lleisiau merched."
Cynghorau Cymru
Mae cabinet dau gyngor yng Nghymru'n cynnwys dynion yn unig.
Saith dyn gwyn sy'n gwneud y penderfyniadau ym Mro Morgannwg, a phump yng nghabinet Blaenau Gwent.
Un ferch sydd yng nghabinet cynghorau Wrecsam, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Ddinbych a Phen-y-bont.
Ar Ynys Môn mae'r unig ferch yn y cabinet - Llinos Medi - yn arwain y cabinet.
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Blaenau Gwent fod nifer o ffactorau yn cael eu hystyried wrth ddewis aelodau, gan gynnwys profiad sydd ddim yn berthnasol i ryw y person.
"Wrth i aelodau newydd ddod i'r cyngor ry'n yn paratoi pob math o gyfleon i sicrhau fod merched yn cael mwy o brofiad", meddai'r llefarydd.
Dywedodd Arweinydd Bro Morgannwg, John Thomas, fod gan y cyngor faer benywaidd ac fe gadarnhaodd mai cynghorwyr gyda'r profiad mwyaf oedd y rhai gorau i ffurfio cabinet newydd.
Ychwanegodd: "Byddwn yn gweithio'n ddiflino i geisio denu mwy o bobl ifanc i wleidyddiaeth ac i wella amrywiaeth."
Mae gan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru arweinydd benywaidd am y tro cyntaf, Debbie Wilcox o Gasnewydd.
Dywedodd er bod gwelliannau wedi cael eu gwneud, bod y cynnydd mewn cyfartaledd rhyw yn "siomedig o araf".