Cryfhau gwasanaeth meddygon awyr Cymru

Bydd mwy o feddygon ac arbenigwr meddygol yn ymuno â gwasanaethau ambiwlans awyr Cymru yn y dyfodol agos er mwyn gallu rhoi triniaethau arbenigol yn y fan a'r lle.
Bydd y meddygon ac ymarferwyr gofal critigol yn ymuno â'r timau o barafeddygon sydd yn hedfan yn y gogledd i helpu pobl mewn argyfwng.
Mae'r newidiadau yn golygu bydd cleifion yn gallu derbyn triniaethau fel trallwysiad gwaed, anesthesia a chyffuriau lladd poen cryf gan dimau meddygol fydd ar yr hofrennyddion.
Bydd y Gweinidog Iechyd yn lansio'r gwasanaethau ychwanegol mewn digwyddiad ym maes awyr yng Nghaernarfon ddydd Llun.
Denu arbenigwyr
Yn ôl Vaughan Gething: "Bydd yn dod â meddygaeth brys yn llawer yn agosach i bobl sy'n byw yng ngogledd Cymru a bydd yn sicrhau eu bod yn medru cael y gofal gorau yn gyflymach."
Yn ôl y bwrdd iechyd mae'r gwasanaeth meddygon awyr wedi denu rhai arbenigwyr meddygol i Gymru.
Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gary Doherty: "Rydym yn bles fod y gwasanaeth hwn hefyd wedi helpu i recriwtio ymgynghorwyr meddygaeth frys ac ymgynghorwyr anesthesia i mewn i'n hysbytai gan iddynt gael eu denu yma gan y cyfle i weithio ar y gwasanaeth meddygon brys."