Ble mae'r menywod?

  • Cyhoeddwyd
fdfd

Mae Bethan Mair, sy'n olygydd llyfrau a beirniad llenyddol, wedi codi pryderon nad oes digon o fenywod yn brif swyddogion Llys yr Eisteddfod.

"Wrth agor tudalen flaen y cyfansoddiadau mae rhestr o swyddogion a chymrodyr yr Eisteddfod i'w gweld, ac mae pob un yn ddynion heblaw am un - ac mae hi wedi ei chyflogi," meddai.

"Mae'r cydbwysedd rhwng menywod a dynion dipyn gwell o ran y bobl sydd wedi'u cyflogi gan yr Eisteddfod, ond dydy'r cyrff llywodraethol yn sicr ddim yn gytbwys.

"Mae'n fy atgoffa o'r dryswch o'n i'n teimlo yn y capel yn blentyn, pan oedd dynion yn eistedd yn y Set Fawr, ac y gwragedd fwy tua'r cefn yn cael eu cymell i wneud y te.

"Mae pethau fel hyn wedi eu gwreiddio mor ddyfn ynom ni nes bo' chi ddim yn sylwi ar y peth tan i rywun dynnu'ch sylw at yr anghyfiawnder."

'Cyfle i unrhyw un'

Mewn ymateb ar raglen Taro'r Post BBC Radio Cymru ddydd Llun, fe ddywedodd Llywydd Llys yr Eisteddfod, Eifion Lloyd Jones: "Mi gaiff unrhyw unigolyn yng Nghymru, boed ddyn neu ddynes, berthyn i'r llys.

"'Da ni am iddyn nhw wneud, 'da ni'n eu croesawu nhw, ac mi fydda ni'n falch iawn o gael mwy yn ymaelodi â'r llys.

"Y llys ydy corff llywodraethol yr Eisteddfod, a'r llys yn y pen draw sy'n penderfynu be' sy'n digwydd o'r Eisteddfod ym mhob sut a modd. Felly mae'n gorff cwbl ddemocrataidd ac yn agored i unrhyw unigolyn, boed yn ddyn neu ddynes.

Disgrifiad o’r llun,
Bethan Mair

"Mae'r llys wedyn yn enwebu ac ethol aelodau'r cyngor, ac mi gaiff unrhyw aelod o'r llys enwebu unrhyw aelod arall i fod yn aelod o'r cyngor.

"Mae tua 40 o aelodau ar y cyngor, ac mae yna chwech yn cael eu hethol bob blwyddyn... a bydd yna etholiad i holl aelodau'r llys i bleidleisio dros yr enwau - yn ddyn neu ddynes - ac mae'r penodiadau yn cael eu rhannu rhwng y tri dyn uchaf yn y bleidlais ac y tair dynes uchaf.

"Mae hynny felly yn amlwg yn golygu bod y sefyllfa yn hollol gyfartal a bod cyfle i unrhyw un, ac rydym ni mewn gwirionedd yn weithredol yn sicrhau bod merched yn cael y cyfle hynny i ddod a bod yn aelod o'r cyngor."