Gwaith yn dechrau ar ganolfan arloesi yn Abertawe

rob stewart a jane davidson Image copyright PYDDS
Image caption Rob Stewart, arweinydd Cyngor Abertawe, a Jane Davidson, Is-Ganghellor Cysylltiol a Chynaliadwyedd Prifysgol Y Drindod Dewi Sant

Mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau ar ddatblygiad gwerth £6.5m fydd yn rhan o ddatblygiad Prifysgol Y Drindod Dewi Sant ym Mae Abertawe.

Bydd Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru yn lleoliad ar gyfer myfyrwyr o ysgolion a cholegau cyfagos sydd am gael blas o'r diwydiant adeiladu.

Mae'n rhan o ddatblygiad ehangach gwerth £300m yn yr ardal honno o'r ddinas, gyda'r bwriad o greu canolbwynt ar gyfer addysg, busnes ac arloesi.

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart fod y "cynlluniau ailddatblygu cyffrous" yn dangos fod "pethau eisoes yn digwydd er budd Abertawe fel dinas".