Cwpan y Gynghrair: Caerdydd 1-2 Burton Albion

burton Image copyright Rex Features

Caerdydd allan o Gwpan y Gynghrair wedi iddynt golli gartref yn erbyn Burton Albion nos Fawrth.

Fe roddodd Tom Naylor y Bragwyr ar y blaen yr hanner cyntaf, ar ôl i'r tîm cartref fethu â chlirio cic cornel.

Fe ddyblodd Burton eu mantais gyda pheniad gan Ben Fox ar ôl 70 munud.

Ofer oedd ymdrechion Caerdydd, i geisio sicrhau eu lle yn y rownd nesaf o'r gystadleuaeth, wrth i Pilkington sgorio gôl o gysur i'r tîm cartref.

Dyma gêm gyntaf o'r tymor i'r Adar Gleision ei cholli o dan reolaeth Neil Warnock.