Dyn o Landeilo'n gwadu treisio dynes ar ddechrau'r 80au

Ysgol Image copyright Google
Image caption Mae swyddogion wedi bod yn ymchwilio fel rhan o Ymgyrch Almond ers 2015

Mae dyn 71 oed gafodd ei arestio fel rhan o ymchwiliad i honiadau o gamdriniaeth yn erbyn plant mewn ysgol a chartref gofal yn Sir Gaerfyrddin wedi gwadu iddo dreisio dynes ifanc dros 30 mlynedd yn ôl.

Plediodd y dyn o Landeilo'n ddieuog i'r digwyddiad honedig ddigwyddodd ym mlynyddoedd cynnar y 1980au, yn Llys y Goron Abertawe.

Cafodd ei arestio gan swyddogion i Ymgyrch Almond sy'n ymchwilio i honiadau i gamdriniaeth hanesyddol yn Ysgol Rhyd y Gors a chartref plant Cartref y Gelli yng Nghaerfyrddin.

Mae disgwyl y bydd y dyn yn mynd o flaen ei well ym mis Chwefror.