Tirlithriad: Profiadau 'dirdynnol'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Tirlithriad: Profiadau trigolion yn 'ddirdynnol'

23 Awst 2017 Diweddarwyd 08:17 BST

Mae'n bosib y bydd rhaid i ragor o bobl yng Nghwm Tawe adael eu tai oherwydd pryderon am dirlithriadau.

Yn ôl arweinydd Cyngor Castell-Nedd Port Talbot, Rob Jones, does dim sicrwydd dros ddyfodol 150 o gartrefi yn ardal Ystalyfera hyd nes bydd canlyniadau archwiliad arbenigol yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.

Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus nos Fawrth dywedodd cynghorydd Ystalyfera, Alun Llewelyn bod profiadau rhai trigolion yn "ddirdynnol".