Glantaf: 'Ni'n hoffi curo timau o Loegr'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Rygbi Glantaf: 'Ni'n hoffi curo timau o Loegr'

25 Awst 2017 Diweddarwyd 08:01 BST

Bydd tîm Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd yn cystadlu yn rownd derfynol Pencampwriaeth Rygbi'r Gynghrair Cymru a Lloegr am y drydedd flwyddyn yn olynol yn ddiweddarach.

Fe fydd tîm blwyddyn naw yr ysgol yn herio Ysgol Ramadeg Mirfield o Orllewin Sir Efrog yng Nghlwb Rygbi Richmond yn Llundain brynhawn Gwener.

Cyn iddyn nhw deithio yno bu Gwilym, Tirion ac Osian o'r garfan yn sôn am y paratoadau cyn y gêm fawr.