Gwrthdrawiad ffordd difrifol ar gyrion Caerdydd

A4160 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A4160 ger Tafarn Barons Court

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yng Nghogan fore Gwener.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad, rhwng lori a cherddwr ar ochr y ffordd, ychydig ar ôl 08.30 ger Tafarn Barons Court ar Ffordd Penarth.

Aethpwyd a dyn i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau difrifol, wedi iddo gael ei daro gan y lori LGV a oedd yn cario fforch godi ar y pryd.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.

Pynciau Cysylltiedig