Wrecsam 1-0 Woking

Pel droed Image copyright Rex Features

Buddugoliaeth o un i ddim oedd hi i Wrecsam ar y Cae Ras.

Mae'r canlyniad yn golygu fod y pedwar prif tîm o Gymru wedi ennill ddydd Sadwrn.

Daeth y gôl i'r Cochion wedi 43 munud ac fe'i sgoriwyd gan James Jennings.

Er i'r tim cartref greu mwy o gyfloedd na Woking, ddaeth yna ddim gôl arall.

Doedd yna ddim steil i'r perfformiad ond roedden nhw'n haeddu'r fuddugoliaeth ac mae'r canlyniad yn siŵr o roi hwb i Wrecsam cyn eu gemau wythnos nesaf.