Nathan Cleverly yn ymddeol o'r byd bocsio

Cleverly Image copyright Getty Images
Image caption Nathan Cleverly yn 2016 ar ôl iddo gipio'r teitl

Mae Nathan Cleverly wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o'r byd bocsio ar ôl colli ei deitl WBA pwysau go drwm yn Las Vegas.

Hon oedd amddiffyniad cyntaf y Cymro o Gaerffili o'i deitl.

Ond cafodd ei guro yn y pumed rownd gan yr ymladdwr o Sweden Badou Jack pan gamodd y dyfarnwr rhwng y ddau focsiwr a stopio'r ornest.

Dyma'r pedwaredd ornest i Cleverly golli ac ysgrifennodd ar Twitter ei bod hi'n amser rhoi'r gorau iddi.

"Amser i ddweud hwyl fawr. Diolch a hwyl fawr bocsio. Dwi wedi byw'r peth ac wedi mwynhau bob eiliad o'r gamp."

Straeon perthnasol