Undeb yn 'atal' AC UKIP rhag mynychu digwyddiad

Mae un o Aelodau Cynulliad UKIP yn dweud ei bod yn cael ei "hatal" rhag cynrychioli ei hetholwyr, wedi i undeb ddweud wrthi nad oedd modd iddi gymryd rhan mewn trafodaeth banel tebyg i Pawb a'i Farn.
Mae undeb Unsain yn trefnu'r digwyddiad yn siambr Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar 8 Medi.
Roedd pob un o ACau rhanbarth Gorllewin De Cymru wedi cael cynnig i gymryd rhan, ond dywedodd Caroline Jones AC fod yr undeb wedi dweud wrthi'n ddiweddarach mai camgymeriad oedd ei gwahoddiad hi.
Dywedodd Ms Jones: "Fy marn i yw, drwy beidio â chael mynychu'r cyfarfodydd hyn, mae Unsain wedi atal AC rhag cynrychioli'r etholwyr oedd wedi ei hethol.
"Mae'r penderfyniad yn gwbl groes i ddemocratiaeth."
Etholiad
Dywedodd UKIP fod 130,000 o bobl wedi pleidleisio i'r blaid yn etholiad y Cynulliad y llynedd, ac y dylid clywed barn y blaid.
Dywedodd Mark Fisher, o gangen Unsain ym Mhort Talbot: "Dyma ddigwyddiad sydd wedi ei drefnu a'i redeg gan y gangen leol o Unsain. Mae gwleidyddion fydd yn mynychu'n gweld sut mae toriadau difrifol llywodraeth y DU wedi niweidio cymunedau Port Talbot, a'r angen i ddiweddu llymdra ar frys.
"Cyfle yw'r cyfarfod hwn i ymchwilio i'r pwysigrwydd o fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a sut mae hybu ariannu tecach i Gymru.
"Gan fod cangen Castell-nedd Port Talbot wedi ymgyrchu'n gyhoeddus ac agored yn erbyn polisïau ac egwyddorion UKIP, fe fyddai'n amhriodol ac yn erbyn dymuniadau ein haelodau i gynnwys UKIP yn y digwyddiad hwn."