Adnabod tystion posib i lofruddiaeth ym Mangor

CCTV Bangor Image copyright Heddlu Gogledd Cymru

Mae'r heddlu wedi adnabod dau berson all gynorthwyo ymchwiliad i farwolaeth dyn wedi digwyddiad ger clwb nos ym Mangor.

Bu farw Esinkumo Ayabowei - oedd yn cael ei adnabod fel Henry - yn dilyn digwyddiad ar Stryd y Deon ar 1 Ebrill.

Cafodd Mr Ayabowei, oedd yn 27 ac yn byw yn Llangefni, ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad, ond bu farw'n ddiweddarach.

Mae Kieron Terence Roberts, 26 o Fangor, wedi ei gyhuddo o'i lofruddio.

Yn dilyn apêl i adnabod y ddau berson a welwyd ar gamerâu cylch cyfyng, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y ddau wedi cysylltu â'r llu.

Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Roedd Esinkumo Ayabowei yn dad i ddau o blant

Pynciau Cysylltiedig