Marwolaeth Llanbedrog: Pedwar dyn yn y llys

Peter Colwell Image copyright Facebook
Image caption Roedd Peter Colwell yn 18 oed ac yn heliwr brwd

Mae pedwar dyn wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon wedi'u cyhuddo o droseddau'n ymwneud â gynnau yn dilyn marwolaeth dyn ifanc ym Mhen Llŷn.

Daeth yr heddlu o hyd i Peter Colwell, 18 oed o Gapel Uchaf, Clynnog Fawr, yn farw ym maes parcio tafarn y Llong ym mhentref Llanbedrog yn oriau mân bore Sul 5 Chwefror.

Daeth archwiliad post mortem i'r casgliad ei fod wedi marw o un ergyd gwn i'w ben.

Fe wnaeth Harry Robert Shane Butler, 22 oed o Laniestyn, Benjamin George Fitzsimons, 22, a Michael David Fitzsimons, 24 - y ddau o Nanhoron - bledio'n ddieuog i fod â gwn oedd â bwledi ynddo mewn man cyhoeddus.

Mae pedwerydd dyn - Ben Andrew Wilson, 28 o Sir Gaergrawnt - yn wynebu tri chyhuddiad o beidio cydymffurfio ag amodau trwydded gynnau a dau gyhuddiad o beidio cydymffurfio ag amodau trwydded gwn barel dwbl (shotgun).

Ni gyflwynodd ble i'r cyhuddiadau yma.

Fe gafodd y pedwar eu rhyddhau ar fechnïaeth cyn eu hymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ar 2 Hydref.

Straeon perthnasol