Jonny Williams yn ymuno â Sunderland ar fenthyg

Jonny Williams Image copyright Getty Images
Image caption Mae Jonny Williams yng ngharfan Cymru i herio Awstria a Moldofa

Mae chwaraewr canol-cae Cymru, Jonny Williams, wedi ymuno â Sunderland ar fenthyg o Crystal Palace.

Bydd Williams, sydd â 17 o gapiau rhyngwladol, ar fenthyg â'r clwb yn y Bencampwriaeth nes diwedd y tymor.

Cafodd Williams, 23, ganiatâd i adael carfan Cymru ddydd Iau i deithio i ogledd Lloegr i gwblhau'r trosglwyddiad.

Dyma fydd y pumed tro iddo gael ei yrru allan ar fenthyg gan Crystal Palace, gyda'r chwaraewr canol-cae eisoes wedi bod yn Nottingham Forest, MK Dons ac Ipswich ddwywaith.

Pynciau Cysylltiedig