Cyfaddef dynladdiad yn achos marwolaeth clwb nos Bangor

  • Cyhoeddwyd
Henry AyaboweiFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Eskinumo 'Henry' Ayabowei ar 2 Ebrill yn dilyn yr ymosodiad yng nglwb nos Peep

Mae dyn 26 oed wedi cyfaddef lladd dyn arall ar ôl ei daro ag ergyd yn ystod ymosodiad mewn clwb nos ym Mangor ym mis Ebrill.

Cyfaddefodd Kieran Terence Roberts i ddynladdiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug, ar ôl gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Cafodd Eskinumo Ayabowei, 27, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Henry neu Romeo, ei ganfod yn anymwybodol y tu allan i glwb nos Peep yn y ddinas yn oriau man y bore ar 1 Ebrill yn dilyn y digwyddiad.

Bu farw Ayabowei, oedd yn dad i ddau o blant, o'i anafiadau ddiwrnod yn ddiweddarach.

'Gŵr cariadus'

Wrth ymddangos yn y llys drwy linc fideo o'r carchar fe gyfaddefodd Roberts, o ardal Maesgeirchen ger Bangor, yn euog i'r cyhuddiad o ddynladdiad.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa gan y barnwr Paul Thomas QC, a bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ar 2 Hydref.

"Yn y bôn roedd hwn yn achos o ladd yn anghyfreithlon o ganlyniad i un ergyd gan y diffynnydd," meddai Paul Thomas QC ar ran yr erlyniad.

Mewn datganiad dywedodd gwraig Mr Ayabowei ei bod wedi colli "gŵr cariadus" a bod y golled wedi "chwalu ein bywydau".

"Rydw i'n hynod ddiolchgar am yr help a'r gefnogaeth rydyn ni wedi ei gael gan ein cymuned. Nawr rydyn ni eisiau cyfiawnder i Henry, fel nad yw Kieran Roberts yn gallu lladd eto."