Cyhoeddi enw datblygiad newydd yn hen farchnad Wrecsam

Ty Pawb Image copyright Google
Image caption Mae'r datblygiad yn cael ei adeiladu ar hen safle Marchnad y Bobl yn Wrecsam

Tŷ Pawb fydd enw'r datblygiad newydd ar safle Marchnad y Bobl yng nghanol Wrecsam.

Pleidleisiodd 897 o'r cyhoedd ar ddewis o dri enw oedd dan ystyriaeth - Tŷ Pawb, Cartref neu Oriel M.

Daeth cadarnhad yng nghyfarfod o bwyllgor gwaith y cyngor fore Mawrth mai Tŷ Pawb fydd yr enw newydd.

Nid pawb oedd yn hapus gyda'r datblygiad £3.5m, ddechreuodd ym mis Ionawr.

Roedd rhai masnachwyr yn anfodlon eu bod yn gorfod symud eu busnesau, ac mae eraill wedi codi pryderon am gost y cynllun.

Mae disgwyl i'r datblygiad gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2018.