Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-0 Hartlepool

  • Cyhoeddwyd
Dean KeatesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Dyw tîm Dean Keates nawr heb ildio gôl mewn pum gêm

Mae Wrecsam nawr yn ddiguro mewn pum gêm yn y Gynghrair Genedlaethol wedi iddyn nhw gael gêm gyfartal gyda Hartlepool ar y Cae Ras nos Fawrth.

Yr ymwelwyr ddaeth agosaf at sgorio, wrth i Lewis Hawkins daro'r traws o 20 llath ar ôl awr o chwarae.

Daeth cyfle gorau'r tîm cartref ychydig funudau'n ddiweddarach, gyda Scott Loach yn arbed ergyd Alex Reid.

Mae'r canlyniad yn gweld y tîm o ogledd Cymru yn gostwng i'r chweched safle yn y tabl.