Cyhuddo dyn 21 oed o lofruddio dynes yn Y Rhyl
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai Tyler Denton oedd y ddynes fu farw
Mae dyn 21 oed o'r Rhyl wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth ac o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn y dref nos Sadwrn.
Bydd Redvers James Bickley yn ymddangos o flaen ynadon Llandudno fore Mercher wedi'i gyhuddo o lofruddio Tyler Denton, 25, ac o geisio llofruddio dyn a dwy ddynes arall o'r Rhyl.
Roedd angen triniaeth ysbyty ar y tri.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Neil Harrison: "Roedd y digwyddiad trasig yma yn Llys Aderyn Du, Y Rhyl, am tua 23:45 nos Sul.
"Os oes gan unrhyw un wybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad fe ddylen nhw gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod RC17138247, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111."
Cafodd y dyn ei arestio yn agos i safle'r digwyddiad nos Sadwrn yn Llys Aderyn Du
Straeon perthnasol
- 11 Medi 2017